Newyddion Rhagfyr

Hafan > Newyddion > Newyddion Rhagfyr


Diolch i blant Blwyddyn 6 am addurno ein Coeden Nadolig, ac i Siôn Corn am alw heibio i gadw llygad ar y plant.

Mae pawb wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer ein Gwasanaeth Carolau, ac roedd yn hyfryd gweld Capel Tal-y-Bont yn llawn o rieni, teuluoedd ac aelodau’r gymuned yn ein cefnogi. Canodd y plant yn arbennig o dda, a chafwyd cyfle hefyd i wrando ar berfformiadau offerynnol gan rai o’n disgyblion hŷn.

Dathlwyd y Nadolig drwy fwynhau cinio blasus – diolch o galon i Anti Helen ac Anti Cathy am ei baratoi. Roedd y plant yn edrych yn wych yn eu hetiau Nadoligaidd hefyd.

Cyn diwedd y tymor daeth ymwelydd arbennig i’r ysgol, a chafodd y plant gyfle i ddangos eu doniau dawnsio yn ein disgo. Roedd Siôn Corn wedi clywed am eu perfformiad gwych yn y sioe ac aeth â rhywbeth bach i bob un fel gwobr am eu hymdrechion.

Daeth Catrin o’r Bwrdd Dŵr i gynnal gwasanaeth yn egluro gwybodaeth am y gylchred ddŵr a sut i arbed dŵr. Yna, bu plant Blwyddyn 3/4 a 5/6 yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol am sut yr ydym yn defnyddio dŵr o ddydd i ddydd.

Cafodd rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 gyfle i wrando ar gyflwyniad “Paid â Dwyn fy Nyfodol”, a oedd yn amlygu pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, boed wyneb yn wyneb neu’n ddigidol, yn ogystal â sut i gadw’n ddiogel.

Yn eu hamser dysgu, mae Dosbarth Crafnant wedi bod yn archwilio gwir ystyr y Nadolig ac yn dysgu am y Pegwn y Gogledd. Yn y cyfamser, mae Dosbarth Melynllyn wedi bod yn ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i wneud tôst ar gyfer yr estron sy’n ymweld â’r dosbarth, ac wedi cael blas ar wahanol gynhwysion i fynd ar eu tôst.

I orffen tymor prysur, aeth y plant o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 i weld y panto Sindarela yn Venue Cymru – profiad arbennig i bawb!

Rydym yn edrych ymlaen at seibiant haeddiannol dros y Nadolig ac at gael cyfle i ymlacio cyn dychwelyd ym mis Ionawr ar gyfer tymor a blwyddyn newydd sbon.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!


Pob Eitem Newyddion